Esbonio beth yw CGD

Rhaglen e-Ddysgu Cymunedau, gan gynnwys chwe phennod hawdd eu dilyn yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Darparu ateb parhaol ar gyfer gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd y DU yw un o’n problemau amgylcheddol mwyaf heriol. Heb weithredu nawr, byddem yn ymestyn am ddegawdau y risgiau a’r costau sy’n gysylltiedig â thrin y gwastraff hwn uwchben y ddaear ac yn gadael i genedlaethau’r dyfodol ddod o hyd i ateb parhaol. Mae gwyddonwyr ac arbenigwyr ym mhob cwr o’r byd wedi cytuno mai’r ateb hirdymor mwyaf diogel ar gyfer gwastraff o’r fath yw gwaredu daearegol. Mae nifer o wledydd sydd ag etifeddiaeth debyg eisoes wedi sefydlu rhaglenni datblygedig i adeiladu cyfleusterau gwaredu daearegol er mwyn ynysu gwastraff ymbelydrol gannoedd o fetrau dan y ddaear.

Pennod 1: Beth yw ymbelydredd? - Pennod 2: Pam mae angen CGD arnom? - Pennod 3: Beth yw CGD? - Pennod 4: ‘Sut byddwn yn gweithio gyda chymunedau’ – Pennod 5: ‘Sut gall CGD fod o fudd i gymuned’ - Pennod 6: Beth sy’n gwneud safle yn addas ar gyfer CGD?

Darllenwch nhw yn eu trefn i ddechrau. Yna, gallwch eu darllen mewn unrhyw drefn i loywi eich dealltwriaeth yn ôl yr angen.